#

Cyllid i fyfyrwyr wrth astudio ar gampws tramor sefydliad addysg uwch y DU 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Y Pwyllgor Deisebau | 25 Mehefin 2019
 Petitions Committee | 25 June 2019
 
 
 Rhif y ddeiseb: P-05-884 (158 llofnod)

Teitl y ddeiseb: Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor.

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio geiriad presennol Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 ("y Rheoliadau"). Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i wneud y diwygiadau i'r Rheoliadau i fynd i'r afael â chyfyngiad presennol Rheoliad 6, Amod 5, sy'n atal myfyrwyr o Gymru rhag cael mynediad at gyllid myfyrwyr i astudio mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU lle mae lleoliad yr astudio ar eu campws tramor. Rydym ni'n ystyried y gellid ei gyflawni, naill ai drwy:

·         ehangu'r meini prawf yn Amod 5 i gynnwys cyrsiau a ddarperir gan sefydliadau addysg uwch yn y DU naill ai yn eu campysau yn y DU neu dramor; neu

·         diwygio Amod 5 i gynnwys cyrsiau a ddarperir gan sefydliadau addysg uwch sy'n cynnig cyrsiau dynodedig ac i gynnwys Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis ar y rhestr o sefydliadau sy'n cynnig cyrsiau dynodedig, gan ddefnyddio'ch disgresiwn o dan Reoliad 8.

Diwygiad arfaethedig:

 Opsiwn 1- "Condition 5 cy

At least half of the teaching and supervision which comprise the course is provided in the United Kingdom or at any campus of a United Kingdom higher education institution located outside of the United Kingdom".

Opsiwn 2 - "Condition 5

At least half of the teaching and supervision which comprise the course is provided in the United Kingdom. This condition shall apply, unless the course has been deemed to be treated as a designated course pursuant to Regulation 8(1) or 8(2)."

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i fabwysiadu'r newidiadau arfaethedig fel y gall myfyrwyr o Gymru sy'n gwneud cais am gyrsiau mewn sefydliadau fel Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis gael eu hystyried fel "myfyrwyr cymwys" at ddibenion cael cymorth i fyfyrwyr. Mae Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis yn cynnig cyrsiau addysg uwch mewn ieithoedd modern, ble mae'r addysgu a'r goruchwylio yn cael ei gynnal yn bennaf ym Mharis. Serch hynny, caiff myfyrwyr eu haddysgu gan gyflogeion Prifysgol Llundain a'i phartner cydweithredol, Queen Mary, Prifysgol Llundain.

Oni wneir newid i eiriad presennol y Rheoliadau, bydd myfyrwyr o Gymru yn parhau i ddioddef anfantais anghyfiawn wrth wneud cais am gyrsiau mewn sefydliadau penodol yn y DU. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud y newid hwn gan nad oes cyfyngiad tebyg ar draws rhannau eraill o'r DU. Os na chymerir unrhyw gamau, gall y Rheoliadau barhau i fod yn rhwystr i fyfyrwyr sy'n gobeithio gwneud cais am gyrsiau yn Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis.

Gwybodaeth ychwanegol [gan y deisebydd]: 

Rhwng mis Medi 2018 a mis Chwefror 2019 cawsom negeseuon anghyson ynglŷn â sefyllfa Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis a chafodd myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr wybodaeth anghyson am eu cymhwysedd. Cymerodd Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis y camau canlynol i fynd i'r afael â hyn:

Cysylltwyd â'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Cysylltwyd â Chyllid Myfyrwyr Cymru.

Cysylltwyd ag adran 'Dynodi' Llywodraeth Cymru.

Mae copïau o'r ohebiaeth berthnasol ar gael ar gais.

Pan eglurwyd y sefyllfa o'r diwedd, ym mis Chwefror, cafodd ymgeiswyr o Gymru wybod gan Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis nad oeddent yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr ar gyfer y rhaglenni hyn, ac achosodd hyn ofid sylweddol iddynt. Felly, rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ystyried ein pryderon fel mater o flaenoriaeth.

 

1.        Crynodeb

Mae'r deisebydd yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i:

§    ddiwygio'r rheoliadau cymorth ariannol i fyfyrwyr i ganiatáu i fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru dderbyn yr un cymorth ariannol i astudio ar gampws tramor sefydliad y DU ag y byddent yn ei gael i astudio cwrs yn y DU yn gyfan gwbl.

Mae dau fath posibl o astudio tramor ar gyfer myfyrwyr y DU:

§    y cyntaf yw lle mae myfyriwr yn y DU yn astudio ei gwrs cyfan neu ran ohono mewn sefydliad yn y DU sydd â champws dramor;

§    yr ail yw lle mae myfyriwr yn y DU yn astudio ei gwrs cyfan neu ran ohono mewn sefydliad nad yw’n sefydliad yn y DU sydd â champws dramor;

Yr enghraifft gyntaf yw testun y ddeiseb hon.

Mae'r ddeiseb yn nodi sefyllfa myfyriwr sy’n dymuno dilyn cwrs astudio israddedig tair blynedd ar gampws Prifysgol Llundain ym Mharis, Athrofa Paris Prifysgol Llundain (ULIP).

Gan fod y cwrs hwn yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl yn Ffrainc ni fyddai fel arfer yn denu cymorth i fyfyrwyr oni bai bod y pŵer o fewn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i wneud eithriad yn cael ei ddefnyddio i “ddynodi” y cwrs yn eithriadol.

Y sefydliadau sy’n gyfrifol am wneud cais am y statws dynodi eithriadol hwn.

Mae'r uchod yn wir ar gyfer Cymru a Lloegr.

Ni fu modd cael cadarnhad ffurfiol gan Student Finance England ar adeg ysgrifennu'r brîff hwn, ond drwy ohebiaeth anffurfiol:

§    Credir bod y cyrsiau dan sylw yn ULIP wedi'u dynodi'n eithriadol gan y Gweinidog yn Lloegr, sy'n golygu bod y cyrsiau'n denu cymorth myfyrwyr i fyfyrwyr sy'n byw yn Lloegr.

§    Credir nad ydynt wedi’u dynodi'n eithriadol gan Weinidogion Cymru, a gall hyn fod yn opsiwn o hyd sy’n agored i'r sefydliad - fel arfer y sefydliad sy’n gyfrifol am wneud cais am ddynodiad eithriadol ar gyfer ei gyrsiau ei hun.

Credir mai'r uchod yw'r rheswm pam nad oes gan fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru hawl i gymorth i fyfyrwyr i astudio yn ULIP, tra bod myfyrwyr o Loegr yn cael y cymorth hwn.

Mae'r Gweinidog yn ystyried bod y materion a godwyd gan y deisebydd yn 'deilwng' ac mae’n cynghori y bydd swyddogion yn adolygu'r mater ymhellach er nad yw o blaid diwygio'r rheoliadau fel y gofynnwyd amdano yn y ddeiseb.     

2.        Rheoliadau cyllid i fyfyrwyr yng Nghymru

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (y Rheoliadau) yn pennu'r meini prawf ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr yn sefydliadau'r DU ar gyfer y rhai sy'n byw yng Nghymru fel arfer.

Daeth y Rheoliadau i rym ar 12 Mawrth 2018. I fod yn gymwys am gyllid i fyfyrwyr, rhaid i'r myfyriwr a'i gwrs dewisedig fodloni meini prawf penodol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.

Un amod yw bod yn rhaid i gwrs astudio fod yn un 'dynodedig' gan Lywodraeth Cymru i ddenu cymorth i fyfyrwyr. Gall cyrsiau gyflawni statws 'dynodedig' mewn un o ddwy ffordd - naill ai drwy:

1.   gymhwyso o dan y rheoliadau; neu

2.   drwy Weinidogion Cymru yn dyrannu'r statws i gwrs penodol nad yw fel arall yn gymwys o dan y rheoliadau.

2.1        Statws dynodedig drwy fodloni'r holl amodau yn y rheoliadau

Yn y rheoliadau, rhaid i gyrsiau dynodedig fodloni amodau penodol. Mae Amod 5, y mae'r ddeiseb yn ymwneud ag ef, yn mynnu fel a ganlyn:

“Mae o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig.”

Ar y wyneb, ni fyddai'r cyrsiau yn ULIP yn bodloni'r amod hwn, gan eu bod yn cael eu darparu’n gyfan gwbl yn Ffrainc. Cyflwynwyd Amod 5 gan reoliadau 2018. Fel y trafodwyd uchod, ac ymhellach isod, mae'r geiriad yn y rheoliadau sy'n berthnasol i Loegr yn debyg iawn ac yn cael yr un effaith.

2.2        Statws dynodedig drwy Weinidogion Cymru yn gwneud eithriad

Os nad yw cwrs yn bodloni'r amodau ar gyfer dynodiad a nodir yn y Rheoliadau, efallai y bydd y Gweinidog yn dal i roi statws dynodedig iddo drwy bwerau sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliad 8:

“(1)  Caiff Gweinidogion Cymru bennu bod cwrs i’w drin fel pe bai’n gwrs dynodedig er gwaethaf y ffaith na fyddai fel arall yn gwrs dynodedig, oni bai am y dynodiad.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu dynodiad cwrs a wneir o dan baragraff (1).”

3.        Rheoliadau cyllid i fyfyrwyr yn Lloegr

Mae'r ddeiseb yn cyfeirio at y rheoliadau sy'n berthnasol i Loegr.

Yn Lloegr, cafodd Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2011 eu diwygio yn ddiweddarach gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) 2014 i gynnwys yr un amod ag a gyflwynwyd yng Nghymru yn 2018:

“a course is substantially provided in the United Kingdom where at least half of the teaching and supervision which comprise the course is provided in the United Kingdom;”.

Fodd bynnag, er gwaethaf yr amod hwn, mae myfyrwyr o Loegr yn dal i allu cael gafael ar gyllid i fyfyrwyr, ac ar hyn o bryd ni all myfyrwyr Cymru wneud hynny. Adlewyrchir y sefyllfa hon yn y canllawiau ar wefan ULIP sy'n egluro:

“Students accepted onto this course are eligible to apply for tuition fee and maintenance loans from Student Finance England or other government bodies. Students who are applying for funding through Student Finance Wales are not eligible for tuition fee and maintenance loans”.

4.        Polisi Llywodraeth Cymru ar gyllido astudiaeth dramor

Ar 14 Mai, ymatebodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, i'r Pwyllgor Deisebau yn dilyn llythyr y Pwyllgor ar 3 Mai.

Mae’r ymateb yn ailadrodd fod Llywodraeth Cymru:

·         wedi ymrwymo i sicrhau bod cymorth ar gael i fyfyrwyr astudio dramor;

·         yn darparu nifer o gyfleoedd ar gyfer astudio dramor i fyfyrwyr, gan gynnwys cymryd rhan lawn yng nghynllun Erasmus+;

·         wedi lansio cynllun peilot newydd sy'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru gymryd rhan mewn gweithgareddau dramor sy'n ymwneud â'u hastudiaethau, fel astudio, gwirfoddoli ac interniaethau.

Ar y system cymorth i fyfyrwyr yng Nghymru, mae'r Gweinidog yn egluro:

“Rhaid i o leiaf hanner yr addysgu a'r oruchwyliaeth sy'n rhan o'r cwrs gael eu darparu yn y DU. Felly, gall hyd at hanner fod dramor. Er mwyn galluogi hyn, mae ffioedd a chymorth cynhaliaeth yn dal i gael eu talu, a gall cymorth ychwanegol fod ar gael ar ffurf grantiau teithio. Mae hyn yn llwyddiannus ac yn effeithiol ar gyfer mwyafrif llethol y myfyrwyr [Pwyslais y Gwasanaeth Ymchwil].”

O ran y materion penodol a godwyd yn y ddeiseb, mae'r Gweinidog yn cynghori nad yw o blaid diwygio'r gofynion rheoleiddio cyffredinol o ran lleoliad y ddarpariaeth ar hyn o bryd. Mae'n amlinellu dau brif gyfyngiad i gefnogi astudio gradd lawn dramor:

·         “Ystyriwyd amrywiol fodelau cymorth yn ystod yr adolygiad ac roedd angen gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â blaenoriaethau. Gyda'r gyllideb gyfyngedig sydd ar gael mewn cyfnod o gyni parhaus, mae ein cyllid yn cefnogi'r rhai mwyaf anghenus. Nid yw ymestyn hyn i'r rhai sy'n astudio eu gradd gyfan dramor yn bosibl.”

·         “ Mae'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer addysg uwch wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd […]. Mae arfer y swyddogaethau rheoleiddio sy'n angenrheidiol i'r fframwaith hwn fod yn effeithiol pan fydd darpariaeth yn symud dramor yn debygol o fod yn anodd, ac mae'n cynyddu'r risg i'r naill grŵp a’r llall.” [Pwyslais y Gwasanaeth Ymchwil]

Mae'r ymateb hefyd yn nodi na fyddai cynyddu swm yr incwm ffioedd a drosglwyddir dramor yn cefnogi nodau Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi mewn addysg uwch yng Nghymru. Canfu gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru lefel isel o alw am astudio graddau llawn dramor. 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.